Sunday, 18 October 2009

Darlith 3

Waw! Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyffrous iawn! Dw i wedi cyhoeddi fy llyfr cyntaf! Gyda help Catrin, aethom ati i gyhoeddi llyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens. Doedd gen i ddim syniad pa mor hawdd oedd y broses o gyhoeddi llyfr. Drwy ‘self-publishing’ mae modd torri nol ar nifer o gostau gan mai fy lle i oedd pendefynu ar y stori, dyluniad, clawr, ffont ac yn y blaen.
Ydych chi’n gyfarwydd efo lulu.com? Na? Doeddwn i ‘rioed ‘di clywed amdano cyn yr wythnos yma chwaith. Mae lulu.com yn eich galluogi i “publish and sell print-on-demand books and e-books, online music and images, custom calendars and books. Free self-publishing – create and print your own book”. Dw i’n meddwl fod hyn yn anhygoel o ddarganfyddiad! Gall cyhoeddi llyfr eich hun fod yn anrheg perffaith i aelodau’r teulu – Mae’n arbennig ac yn bersonol iawn.

Yn gyntaf, roedd rhaid agor cyfrif gyda lulu.com. Yma roedd angen cynnwys gwybodaeth fel enwau, cyfeiriad e-bost, cyfrinair ac enw ar gyfer eich cwmni. Ar ol gwenud hynny, defnyddiais “Project Gutenberg” sef “online book catalogue” i ddod o hyd i lyfr. Project Gutenberg oedd y cynhyrchydd cyntaf erioed i greu llyfrau electronig am ddim. Roedd modd chwilio am lyfr neu awdur a chopi a pastio’r text i raglen fel Microsoft Word. Roeddwn wedyn yn gallu copi a pastio’r text i safle lulu.com. Defnyddiais lyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens…Mae’n siwr eich bod n gyfarwydd a gwaith yr awdur enwog yma! Ychwanegais lun nadoligaidd i gyd-fynd a’r stori..cefais lun oddi ar Flicker… http://www.flickr.com/ - Yn amlwg mae’n rhaid cael caniatad y ffotograffydd/ perchenog y llun cyn ei ddefnyddio. Cymerwch go arni! Defnyddiwch lulu.com a triwch gyhoeddi eich llyfr eich hun. Cefais ddewis y ‘layout’, ffont, math o lyfr e.e clawr caled, clawr papur, lliw, maint ac ati. Roedd yn edrych mor broffesiynol! – dilynwch y linc yma i gael fwy o syniad am beth rwyf yn son… http://www.lulu.com/ . Roedd yn sialens newydd a nes i fwynhau’n arw.

Buaswn yn ystyried creu a chyhoeddi e-lyfr fel un e-publishing artefact ar gyfer fy mhrosiect terfynnol. Gall y prosiect gynnwys e-book, e-journal, e-visual novel ac ati…ond efallai mai e-book na’i benderfynu ei wneud. Yn amlwg cyn meddwl am lyfr i’w gyhoeddi mae’n rhaid ystyried hawlfraint y llyfr..am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma… http://www.copyrightservice.co.uk/copyright/p01_uk_copyright_law

Mae’n ofynnol i unrywun sy’n cyhoeddi llyfr i wneud lot fawr o ymchwil yn gyntaf, er enghraifft, ymchwilio’r farchnad – edrych sut fath o lyfrau sy’n gwerthu orau er mwyn llwyddo. Y cam nesaf fuasai dod o hyd i ‘editor’ i wiro’r sillafu ac ati. Gall hyn fod n gostus iawn.
Mae nifer yn dewis yr opsiwn ‘self-publishing’ yn ddiweddar wrth i’r dechnoleg ddatblygu. Er mwyn i’r llyfr lwyddo, mae’n syniad cael hawlfraint yn erbyn y llyfr cyn ei ddosbarthu - buasai hyn yn amddiffyn eich hawliau chi fel cyhoeddwr y llyfr.

Yn fy mlog diwethaf roeddwn yn trafod y 3 pennod cyntaf o lyfr Thompson…ydych chi’n cofio? Wel dros yr wythnos hon, darllenais bennod 15 o’r llyfr – The hidden revolution: reinventing the life cycle of the book. Ceir gwybodaeth yma am hanes bywyd y llyfr a’r newidiadau digidol ers yr 80’au. Canolbwyntir yn bennaf ar ddyfodiad yr e-lyfr a’r ‘digital workflow’.
Sonir yn y bennod am ffeiliau PDF a pha mor hyblyg a haws ydi eu defnyddio heddiw. Yn y dosbarth bu’m yn trafod ‘tags’, er enghraifft - Mae’r fformat yma’n cael ei ddefnydddio er mwyn gallu darllen ar unrhyw declyn fel y we, cyfrifiadur neu i-phone a.y.y.b. Mae’n siwr fod hyn i gyd n dal i swnio’n newydd i chi gyd ond coeliwch fi, unwaith y byddwch yn gyfarwydd efo meddalwedd fel lulu, bydd hyn i gyd yn gwneud synnwyr!

Gobeithio y cewch chi hwyl ar gyhoeddi eich llyfr cyntaf!
Pob hwyl.

No comments:

Post a Comment