Haia!
Wel, dw i ‘di cael wythnos o chwarae a threialu gemau fideo! Braf de!
Yn gyntaf oll hoffwn ddiffinio beth yw gwir ystyr gemau fideo – gelwir yn Interactive Fiction, ble defnyddir ‘text commands’ i reoli cymeriadau. Yn gyffredinol, mae’r term Interactive Fiction yn cyfeirio tuag at ‘text adventure’, sy’n fath o gem anturus, ble mae’r holl rhyngwyneb (interface) yn dext yn unig.
Mae Interactive Fiction yn enwog ers blynyddoedd bellach – death yn boblogaidd yn yr 80’au. Erbyn heddiw mae ystyr y term wedi newid ac mae’n bosib lawrlwytho gemau yn rhad ac am ddim… Cymerwch go ar chwarae un o’r gemau yma am hwyl…
http://www.freeonlinegames.name/tags/interactive_fiction/1Mae ‘Text Adventures’ yn fath o hen emau cyfrifiadurol. Mae’r defnyddiwr / chwaraewr yn defnyddio text fel mewnbwn i reoli’r gem a ceir text yn allbwn hefyd.
Enghraifft o’r gofyniadau (demands) hyn fuasai “get key” neu “go east” ac yn y blaen. Dw i’n siwr fod gennych ryw fath o syniad am beth rwyf yn siarad! Gall gemau fel hyn fod yn rhwystredig iawn o gymharu a gemau graphigol, 3D sydd ar gael heddiw.
Mae 'text game' neu 'text based game' yn fath o gem fideo sy'n defnyddio text yn hytrach na graffeg. Mae gemau fel hyn yn hawdd i'w creu gan nad oes angen llawer o waith prosesu fel gemau graffigol. Dyna oedd yn boblogaidd yn y 70'au/80'au.
Mae nifer o achosion yn codi gyda interactive fiction - e.e open-ended interactivity v's drama. Efallai fod 30 o wahanol ddiweddglo i stori, ond eto, wrth i'r chwaraewr grwydro tu allan i ffiniau'r stori, ni ellir darparu profiad ddramatig. Be dw i'n drio ei ddweud ydi, unwaith mae'r puzzles wedi eu gwneud, mae'r plot yn cael ei ddatgleu...oes pwrpas parhau i chwarae'r gem wedyn?
Wrth gymharu interactive fiction a mathau eraill o ffuglen mae yna debygrwydd. Daw interactive fiction yn wreiddiol o ffuglen draddodiadol fel nofel neu ffilm. Mae yna awdur a chyfarwyddwr i bob stori ac ysgrifennydd mewn gemau. Eu swydd nhw yw creu drama fel bod modd i'r chwaraewr ryngweithio (interact).
Will Crowther oedd y person cyntaf i ysgrifennu ‘Text Adventure Game’ nol yn 1975. Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma…
http://www.rickadams.org/adventure/a_history.htmlMae gemau syml fel hyn wedi goroesi ar y we hyd heddiw!
Y cwmni mwyaf i gynhyrchu gemau Interactive Fiction oedd Infocom –
http://www.infocom-if.org/downloads/downloads.html Infocom oedd yn gyfrifol am greu cyfres Zork, Trinity a The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy –
http://www.heavygames.com/hitchhikersguidetothegalaxy/showgame.asp Dyma’r gem i mi ei chwarae yr wythnos hon. Mae’r gem enwog yma wedi ei selio ar y comic ‘science fiction’. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda stori The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy, felly roedd chwarae’r gem braidd yn rhwystredig gan mai bwriad y gem oedd cwblhau’r stori! Dyma amlinelliad sydyn ar sut i chwarae gemau Interactive Fiction…
http://www.microheaven.com/IFGuide/step3.htmlOs ydych wedi llwyddo i ddarllen fy mlog hyd yn hyn, wel da iawn chi, oherwydd heb lythrennedd a’r gallu i ddarllen ni fuasai’n bosib i chi chwarae’r gem.
Yr hyn sy’n gyfrifol am ddyluniad Interactive Fiction yw system ddylunio, Inform. Mae’r system yma wedi ei selio ar iaith naturiol, hynny yw, - mae ffynhonellau Inform yn darllen yn y Saesneg. Dyna sut mae’r meddalwedd yn deall y gofyniadau (demands).
http://inform7.com/Ewch ati i chwarae’r gemau neu hyd yn oed creu gem eich hun! Mae’n hwyl!
Hwyl am y tro.