Thursday, 12 November 2009

Darlith 6

Haia!

Wel, dw i ‘di cael wythnos o chwarae a threialu gemau fideo! Braf de!

Yn gyntaf oll hoffwn ddiffinio beth yw gwir ystyr gemau fideo – gelwir yn Interactive Fiction, ble defnyddir ‘text commands’ i reoli cymeriadau. Yn gyffredinol, mae’r term Interactive Fiction yn cyfeirio tuag at ‘text adventure’, sy’n fath o gem anturus, ble mae’r holl rhyngwyneb (interface) yn dext yn unig.
Mae Interactive Fiction yn enwog ers blynyddoedd bellach – death yn boblogaidd yn yr 80’au. Erbyn heddiw mae ystyr y term wedi newid ac mae’n bosib lawrlwytho gemau yn rhad ac am ddim… Cymerwch go ar chwarae un o’r gemau yma am hwyl… http://www.freeonlinegames.name/tags/interactive_fiction/1

Mae ‘Text Adventures’ yn fath o hen emau cyfrifiadurol. Mae’r defnyddiwr / chwaraewr yn defnyddio text fel mewnbwn i reoli’r gem a ceir text yn allbwn hefyd.
Enghraifft o’r gofyniadau (demands) hyn fuasai “get key” neu “go east” ac yn y blaen. Dw i’n siwr fod gennych ryw fath o syniad am beth rwyf yn siarad! Gall gemau fel hyn fod yn rhwystredig iawn o gymharu a gemau graphigol, 3D sydd ar gael heddiw.
Mae 'text game' neu 'text based game' yn fath o gem fideo sy'n defnyddio text yn hytrach na graffeg. Mae gemau fel hyn yn hawdd i'w creu gan nad oes angen llawer o waith prosesu fel gemau graffigol. Dyna oedd yn boblogaidd yn y 70'au/80'au.

Mae nifer o achosion yn codi gyda interactive fiction - e.e open-ended interactivity v's drama. Efallai fod 30 o wahanol ddiweddglo i stori, ond eto, wrth i'r chwaraewr grwydro tu allan i ffiniau'r stori, ni ellir darparu profiad ddramatig. Be dw i'n drio ei ddweud ydi, unwaith mae'r puzzles wedi eu gwneud, mae'r plot yn cael ei ddatgleu...oes pwrpas parhau i chwarae'r gem wedyn?
Wrth gymharu interactive fiction a mathau eraill o ffuglen mae yna debygrwydd. Daw interactive fiction yn wreiddiol o ffuglen draddodiadol fel nofel neu ffilm. Mae yna awdur a chyfarwyddwr i bob stori ac ysgrifennydd mewn gemau. Eu swydd nhw yw creu drama fel bod modd i'r chwaraewr ryngweithio (interact).

Will Crowther oedd y person cyntaf i ysgrifennu ‘Text Adventure Game’ nol yn 1975. Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma… http://www.rickadams.org/adventure/a_history.html
Mae gemau syml fel hyn wedi goroesi ar y we hyd heddiw!

Y cwmni mwyaf i gynhyrchu gemau Interactive Fiction oedd Infocom – http://www.infocom-if.org/downloads/downloads.html Infocom oedd yn gyfrifol am greu cyfres Zork, Trinity a The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy – http://www.heavygames.com/hitchhikersguidetothegalaxy/showgame.asp Dyma’r gem i mi ei chwarae yr wythnos hon. Mae’r gem enwog yma wedi ei selio ar y comic ‘science fiction’. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda stori The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy, felly roedd chwarae’r gem braidd yn rhwystredig gan mai bwriad y gem oedd cwblhau’r stori! Dyma amlinelliad sydyn ar sut i chwarae gemau Interactive Fiction… http://www.microheaven.com/IFGuide/step3.html

Os ydych wedi llwyddo i ddarllen fy mlog hyd yn hyn, wel da iawn chi, oherwydd heb lythrennedd a’r gallu i ddarllen ni fuasai’n bosib i chi chwarae’r gem.

Yr hyn sy’n gyfrifol am ddyluniad Interactive Fiction yw system ddylunio, Inform. Mae’r system yma wedi ei selio ar iaith naturiol, hynny yw, - mae ffynhonellau Inform yn darllen yn y Saesneg. Dyna sut mae’r meddalwedd yn deall y gofyniadau (demands). http://inform7.com/

Ewch ati i chwarae’r gemau neu hyd yn oed creu gem eich hun! Mae’n hwyl!

Hwyl am y tro.

Sunday, 1 November 2009

Darlith 5

Pawb yn iawn?

Yr wythnos hon edrychais ar gyfresi o online journals. Un journal i mi edrych ar oedd 'archipelago' - journal yn cynnwys barddoniaeth, storiau ffuglen, lluniau ac ati ydyw...Mae'n gyfle da i waith bobl gael ei gyhoeddi! Yn anffodus nid yw ar gael mewn print bellach. Roedd yn gyfle gwych i hybu ysgrifennu creadigol ac roedd modd gadael sylwadau ar waith eraill. Dilynwch y linc yma i gael gweld copi o '10th anniversary edition' o archipelago. http://www.archipelago.org/contents.htm


Mae'n ddiddorol cael gwybod sut mae pobl yn darllen e.e ydych chi'n dueddol o ddarllen beth sy'n apelio atoch...sganio drwy tudalennau...neu, darllen pob gair?! Mae'n rhaid i mi gyfaddau, dw i ddim yn ffan ar ddarllen e-journals, mae'n haws o lawer gen i ddarllen o lyfr neu bapur newydd. Wedi dweud hynny, mae nifer o fanteision dros darllen ar y we e.e newyddion. Dw i'n ffendio safle we newyddion BBC yn ddefnyddiol iawn bob amser gan fod y newyddion diweddaraf yn cael eu hadnewyddu'n syth! Cawn wybod beth sydd wedi digwydd o fewn mater o funudau! Dw i'n hoffi'r ffaith bod modd lincio'r brif stori gyda digwyddiadau tebyg e.e yn y newyddion heddiw - Spanish beach landslide kills two - Two killed in Tenerife rockslide...mae gan gwahanol safleoedd newyddion wahanol ffyrdd o gyfleu'r stori fel bo modd gweld ochr arall i'r digwyddiad efallai. Mae hyn yn ein galluogi i roi barn ein hunain am y digwyddiad.


Rydych chi gyd yn gyfarwydd gyda safle we newyddion BBC dw i'n siwr...Mae'n hawdd i'w ddefnyddio ond teimlaf mae'n hawdd mynd ar goll hefyd wrth fynd nol a 'mlaen o wahanol storiau. Mae hyperlincio yn ein galluogi ni i neidio o un stori i'r llall fel y gwelwch yma http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/8337129.stm


Fe welwch ar dop a gwaelod tudalen newyddion y BBC bod modd e-bostio'r stori i ffrind neu ei brintio er mwyn darllen fersiwn printiedig. Yn bersonol, mi fuasai'n well gen i wylio BBC News 24 ar y teledu yn hytrach na darllen y newyddion...Beth yw eich barn chi ar hynny?


Wrth glicio ar y linc yma http://news.bbc.co.uk/1/hi/help/6915817.stm ... sylwer fod modd rhannu'r newyddion/stori gyda bobl eraill drwy ddefnyddio sawl botwm 'social bookmarking'.







Drwy dechnoleg fel hyn mae modd annog pawb i ddarllen.

Sylwer hefyd fod rhan fwyaf o newyddion/storiau gan y BBC yn cynnwys fideo/clip audio i gyd-fynd gyda'r digwyddiad. Mae modd gweld rhyw lun o'r digwyddiad gyda phob darn o newyddion ond teimlaf bod mwy o ddyfnder i'r stori drwy wylio'r digwyddiad - Mae'n haws dadansoddi'r stori a dangos dealltwriaeth tuag at y pwnc o dan sylw. Dyma enghraifft i chi - http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8337017.stm

O ran diddordeb hefyd darllenwch y darn yma o newyddion am Stephen Fry a'r digwyddiad ynglyn a'i bostiau Twitter. Dw i'n siwr y buasai'n apelio gan fod hwn yn bwnc perthnasol - http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/8336425.stm

Journal arall i ni edrych arno oedd 'The Washington Post' - Gall bobl adael sylwadau yma ar erthyglau, cawn wybod barn eraill ar wahanol bynciau, pwy sy'n cytuno/anghytuno. Mae'n bosib i'r sylwadau yma gan y cyhoedd newid yr erthygl wreiddiol - gall hyn gael effaith fawr ar y digwyddiad. Dydw i ddim yn un am adael sylwadau...ydych chi? http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1420

Erbyn heddiw y 'gatekeeper' sy'n rheoli beth caiff ei ddweud/dim ei ddweud, rheoli beth sy'n cael ei gyhoeddi. Dim y cyhoeddwr sydd bellach gyda'r hawl i ddweud beth i'w gyhoeddi. Mae 'gatekeeper' yn bwysig iawn ym myd newyddiaduraeth. Y seicolegydd Kurt Lewin oedd y cyntaf i ganfod y theory yma o reoli a ffiltro gwybodaeth - (1947). Mae hyn yn wir am bapur newydd The Guardian - "Gatekeeping occurs at all levels of the media structure - from a reporter deciding which sources are chosen to include in a story to editors deciding which stories are printed, or even covered".

Gobeithio fod y gwybodaeth yma'n ddefnyddiol i chi. Mi fuasai'n ddiddorol clywed eich sylwadau chi ar y pwnc o dan sylw.

Tan yr wythnos nesaf,

Hwyl Fawr!