Monday, 5 October 2009

Darlith 1

Croeso i fy mlog!

Cefais ddarlith sy'n hollol newydd i mi yr wythnos hon, sef e-publishing. Cyn y ddarlith doedd gen i ddim syniad beth yn union yw e-publishing. Mae'n amlwg o'r teitl mai rhywbeth sy'n cael ei gyhoeddi ar ffurf electroneg ydyw...ond, mae mwy iddo na hynny.
Bu'm yn edrych ar nofel Ulysses gan James Joyce. Llyfr a gafodd ei gyhoeddi ym Mharis yn 1922. Yn amlwg mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi ers degawdau. Rwyf wedi dod i'r canlyniad fod darllen rhywbeth ffisegol, personol fel llyfr yn apelio fwy ata i yn hytrach na darllen ar ffurf electroneg..efallai eich bod yn cytuno? Fy niffiniad o lyfr ydi rhywbeth gweladwy, ffisegol, sydd modd ei gyffwrdd - Mae e-publishing ar y llaw arall yn cyfeirio at ffurf o gyhoeddi sydd ddim yn cynnwys llyfr printiedig. Cyfrwng eithaf diweddar ydi hyn. Credaf bod manteision ac anfanteision yn gysylltiedig gyda e-publishing. Yn amlwg mae amseroedd cyhoeddi manuscripts yn broses cyflym iawn o gymharu a'r blynyddoedd o aros am lyfr printiedig. Mantais arall yw mwy o hyblygrwydd yn y berthynas rhwng yr awdur a'r cyhoeddwr. Peth da arall a ddysgais am e-publishing yw fod modd ychwanegu sain a graffeg yn electroneg - anodd iawn a chostus fyddai ychwanegu at lyfr printiedig. Daethom i'r canlyniadau hyn am ddiffiniad o e-publishing wrth drafod mewn grwpiau...roedd hyn yn ymarfer da i ddod i nabod aelodau'r cwrs. Mae'n ddiddorol gwybod beth yw barn bobl eraill ar y pwnc e-publishing...

Yn ystod y ddarlith cyntaf cawsom gyflwyniad i safle we 'Moodle' - dyma fyddwn yn ei ddefnyddio yn hytrach na Blackboard...http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/course/view.php?id=41. Yma mae manylion y cwrs a'r aseiniadau. Ar hyn o bryd nid ydwyf yn hollol sicr beth sy'n ofynnol i mi ei wneud...Gofynnir i mi ddatblygu prosiect electroneg penodol. Rwy'n siwr wrth ddysgu mwy am y modiwl daw'r gofynion yn gliriach.

Pob wythnos byddaf yn ysgrifennu blog am beth rwyf wedi ei wneud a'i ddysgu o'r ddarlith. Dyma'r blog cyntaf i mi ei ysgrifennu erioed. Mae'n hawdd creu blog am unryw bwnc wrth gofrestru gyda blogger.com...fel wnes i.

Fy ngwaith cartref am yr wythnos ydi darllen The Rattle of Pebbles gan J.Epstein, The Gutenberg Elegies: The Fate of Reading in an Electronic Age a llyfr Thompson: pennod 1-3.
Edrychaf 'mlaen i gael cychwyn ar waith gan fod e-publishing yn bwnc hollol newydd i mi.

Tan y tro nesaf,
Hwyl fawr.

No comments:

Post a Comment