Thursday, 17 December 2009

Wythnos ddarllen - wythnos 7

Mae'n ddrwg gen i mai rwan dwin ysgrifennu ond, doedwn ddim yn gwybod bod angen ysgrifennu blog ar gyfer yr wythnos ddarllen gan nad oedd darlith. Un pwynt diddorol sydd wedi codi yn ystod y cwrs yw Flash mob. Oes gennych syniad be ydi flash mob?? Wel...flash mob ydi grwp mawr o fobl sy'n sefydlu'n sydyn mewn ardal gyhoeddus i berfformio digwyddiad unigryw iawn. Caiff y bobl hyn eu hysbysu drwy 'social media'..e.e event ar facebook. Mae digwyddiadau flash mob yn gallu cynnwys 'pillow fight day', silent disco ac ati. Mae'n rhywfath o brotest cyhoeddus, ond nid yw'r llywodraeth yn cytuno gyda hyn ac mae modd i rhai bobl gael eu harestio!

http://www.flashmob.co.uk/ - Dyma wefan sy'n darparu gwybodaeth ar ddigwyddiadau flash mob o rwan tan y flwyddyn newydd.



Dwi'n siwr eich bod i gyd wedi gweld hysbydebion digri lle mae pawb yn dawnsio neu'n cyd-symud i gan..Dyma enghraifft gwych gan T-mobile! -










Darlith 12

Hon oedd y ddarlith olaf, ac felly dyma fydd y blog diwethaf hefyd yn anffodus...

Dw i dy synnu pa mor hawdd ydi i rywun hacio mewn i gyfrifiadur a dwyn eich manylion personol! Dyna oedda ni'n drafod yr wythnos hon. Y ffaith gall rhyw 'computer geek' wybod eich cyfrinair! Bu'm yn trafod pa mor ofalus sydd rhaid bod gan fod y llywodraeth yn gallu cael mynedid i wahanol network e.e facebook..rhaid bod n ofalus beth rydych yn ei ddiweddaru fel statws..mae rhywun yn rhywle yn darllen! Da ni gyd yn gwybod fod y we yn wahanol iawn i fywyd real ac mae'n hawdd iawn cael dweud eich dewud - ond dio'm n golygu fod rhywun yn gwrando chwaith! Fel roeddwn yn son, mae hyn yn gallu bod n beryglys...caiff e-publishing ei ddefnyddio i ddosbarthu syniadau ar draws y byd..ond mae'n boen meddwl os ydi hyn yn ddiogel.

Yr ail beth i ni ei drafod yn sydyn yr wythnos hyn oedd podcasting. Gall hyn olygu mynediad hawdd i'r cyfryngau e.e BBC iplayer http://www.bbc.co.uk/iplayer/ ..Mae podcast yn gyfres o ffeiliau digidol ble mae modd eu lawrlwytho drwy web syndication. Mae itunes yn enghraifft hefyd gan fod podcasting yn gysylltiedig gyda'r ipod. Yn y gorffennol, dw i wedi tanysgrifio i bodcsat C2 Radio Cymru ...
http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/podlediadau/pages/podledu_cychwyn_arni.shtml

Ar y pryd doeddwn i ddim n deall beth yn union oedd podcastio a doeddwn i erioed wedi medwl mynd ati i wenud un fy hun. Dysgais yr wythnos hyn mai nid yn unig dal fyny hefo rhaglenni ac ati yw bwriad podcast ond mae'n ffordd wych o gael gwybodaeth allan i'r byd e.e darparu gwybodaeth ar gyfer twristiaeth. Gan fod technoleg wedi datblygu gymaint, erbyn heddiw mae modd pwyntio eich ffon symudol tuag at adeilad e.e castell, a daw gwybodaeth i fyny yn dweud wrthych ble'n union ydych ac ychydig o hanes yr ardal a'r adeiladau! Gwych a pherffaith ar gyfer trip mewn lle dierth! Mai mor hawdd lawrlwytho gwybodaeth - Dyma enghraifft i chi - http://www.bostonharborwalk.com/

Diolch am gymryd amser i ddarllen fy mlogiau dros y 12 wythnos..Dwi wir wedi mwynhau rhannu gwybodaeth ac wedi dysgu llawer o bethau newydd.

Nadolig Llawen i chi gyd a blwyddyn newydd dda :)

Darlith 11

Haia pawb,

Dw i bron a chyrraedd diwedd y cwrs e-publishing! Cawsom drafodaeth hir yn trio adnabod beth yw technoleg a beth yw ei gryfderau a gwendidau. Dros gyfnod o 12 wythnos, rydym wedi edrych ar wahanol fathau o e-publishing, gan gynnwys lulu, blogio, interactive fiction, visual novel, publish on demand...Mae'n anodd diffinio beth yn union sy'n dechnoleg a beth sydd ddim...Gewchi anghytuno os 'da chi isio, ond dyma ein canlyniadau ni...


Publish on Demand - y dechnoleg sydd ei angen neu'n gwenud hyn yn bosib-

  • Database
  • PDF
  • Internet
  • Mobile Phone
  • Books - index
  • Printer / Photocopy

Lulu -

  • Internet
  • Web site
  • PDF
  • Word proccesing
  • XML
  • Postscript
  • Database
  • Amazon forum - login - verification
  • Encryption - Secure transaction
  • Photoshop
  • Copyright
  • Image editing
  • ip/tcp
  • HTML
  • XML

Visual Novel -

  • Graphic design
  • Audio
  • Development platform
  • Content
  • Distribution
  • Internet
  • Flash
  • Animation
  • Programming
  • Graphic editing software
  • Digital image format

Blogs -

  • RSS
  • Hyperlinks
  • Internet
  • Host site
  • Database
  • HTML

Interactive Fiction -

  • Programming
  • XML
  • Software
  • Internet
  • Distribution
  • Content
  • Inform
  • Fundamental technology

Mae'r wefan yma'n rhoi diffinad da ond syml os hoffech ymchwilio ymhellach ar y pwnc yma... http://atschool.eduweb.co.uk/trinity/watistec.html .. Heb y dechnoleg a restrwyd uchod ni fusai e-publishing yn bosib. Mae technoleg yn rhywbeth eang iawn sydd wedi datblygu dros flynyddoedd. Dw i wastad wedi meddwl fod technoleg yn rhywbeth ffisegol, petha syml ac amlwg fel, cyfrifiadur, argaffydd, teledu ac ati. Ond ar ol y drafodaeth dosbarth gellir hyd yn oed galw papur a beiro yn dechnoleg e.e mae mewnbwn ac allbwn i'w gael.

Dim ond blog sydyn yr wythnos hyn..mwy yr wythnos nesaf :)

Hwyl am y tro!

Thursday, 3 December 2009

Darlith 10

Yn dilyn Interactive Fiction, mae gen i rywbeth newydd i chi…

Doeddwn i erioed wedi clywed am Ren’Py cyn heddiw…Yn syml, rhaglen gyfrifadurol ydi Ren’Py sy’n eich galluogi i greu gemau…mae’n ffordd o ddweud stori drwy ffurf gyfrifiadur. Gelwir y storiau hyn yn visual novel – storiau sy’n cael eu cyflwyno drwy eiriau, lluniau lliw, sain a cherddoriaeth. http://renpy.org/wiki/renpy/Home_Page


Mantais mwyaf Ren’Py yw, mae’n hollol rhad ac ddim. Cross platform ydyw sy’n golygu mae’n cefnogi Windows 2000+, Mac a Linux. Nid yw’n ddibynnol ar unrhyw feddalwedd arall. Defnyddir sgript ‘text based’ syml i ysgrifennu’r gemau. Fel hyn, mae modd i chi gynnwys eich hun fwy yn y stori wrth glicio a dilyn delweddau wedi eu animeiddio.




Er i mi beidio clywed am Ren’Py o’r blaen, mae dros 180 o emau wedi eu rhyddhau. Credaf fod hyn yn dangos twf yn y nifer o fobl sydd a phrofiad o ddefnyddio Ren’Py.
Dw i’n meddwl fod Ren’Py yn ddefnyddiol iawn ar gyfer unrhyw ddechreuwr newydd sydd gyda diddordeb mewn creu gemau fideo am ddim! Mae safle we Ren’Py yn darparu digon o wybodaeth a chymorth drwy sesiynnau tiwtorial. Mae’n eithaf syml i’w ddefnyddio..dw i hyd yn oed yn gallu ei ddallt! http://renpy.org/wiki/renpy/doc/tutorials/Quickstart


Edrychais ar Blade Engine, sydd hefyd yn raglen ar gyfer creu “graphic novel” http://www.bladeengine.com/ Gellir dadlau mai Ren’Py sy’n profi i fod fwyaf poblogaidd…Mae’n eich galluogi i fod yn hyblyg iawn wrth greu “visual novel” heb lawer o ymdrech. Dw i’n gobeithio bydd Ren’Py yn boblogaidd iawn ym Mhrydain gan mai Japan yw ei brif farchnad ar hyn o bryd.

Mae’n amlwg fod technoleg wedi newid busnes a chymuned..effaith hyn yw ‘disruptive technology’. (Technoleg newydd sy’n cymryd lle hen dechnoleg yn annisgwyliedig). Dw i wedi clywed bod angen Java i allu rhedeg Ren’Py…Ond ar ol ymchwilio deallais ei fod yn cymryd oes i’w lwytho!

Mae’r iphone yn enghraifft dda o ‘disruptive technology’ sydd wedi cymryd lle y cyfrifiadur. Erbyn heddiw mae modd edrych ar ‘visual novel’ drwy dechnoleg ffon symudol. Mae hyn yn ddatblygiad diweddar iawn sydd wedi cael effaith ar yr oes ddigidol.
Oes ydych eisiau rhoi go ar chwarae un o'r visual novels..cliciwch y linc yma... http://renpy.org/wiki/renpy/Ren%27Py_Games_8#189._Guess_The_Number
Hwyl :)

Trafod Syniadau

Doedd dim darlith yr wythnos yma ond cefais gyfarfod er mwyn trafod syniadau fy mhrosiect terfynol.

Bob wythnos dw i wedi bod yn trio a threialu gwahanol fathau o e-publishing megis, defnyddio lulu.com i greu e-lyfr… http://www.lulu.com/ ... inform i greu math o Interactive Fiction… http://www.inform-fiction.org/I7/Welcome.html... Ren’Py i greu visual novel ac ati... http://renpy.org/wiki/renpy/Home_Page... Ar ol wythnosau o feddwl, rwyf wedi penderfynu mai e-lyfr yr hoffwn ei greu fel fy mhrosiect terfynol. Mae gofyn i mi greu e-lyfr ac adroddiad i gyd fynd gydag o yn egluro’r broses. Dw i’n edrych ‘mlaen i gael cychwyn ar y prosiect rwan.

Wednesday, 2 December 2009

Darlith 8

Doedd dim darlith yr wythnos diwethaf gan fod gen i wythnos ddarllen felly mae gen i ddipyn o wybodaeth i chi yr wythnos hyn!
Yn gyntaf oll, hoffwn ehangu fwy ar beth oeddwn yn ei drafod yn fy mlog diwethaf, sef, Interactive Fiction. Yr wythnos hyn, fel dosbarth bu'm yn chwarae gem ar ffurf stori. Enw'r stori yma oedd "The Breathing Wall". Caiff y stori ei hadrodd drwy ddefnyddio text, delwedd a sain. Mae'r stori yn ymateb i anadl y gwrandawyr...I wneud hyn rhaid defnyddio headset a microphone. http://www.thebreathingwall.com/ Roedd yn rhyfedd iawn meddwl sut oedd stori yn hollol newid gan ddibynu ar eich ymateb! Mae'n ddull arbrofol iawn i'w ddefnyddio ac mae'n llwyddo i ddenu sylw llawer iawn o fobl gan ei fod n fath gwahanol o IF.

Storymash - The Future of Collaborative Fiction. http://storymash.com/ Cymuned yw storymash sy'n galluogi unrhyw un sydd gyda diddordeb mewn ysgrifennu creadigol i gymryd rhan. Mae'n ffordd o wneud arian ac mae'n ffordd wych o ddarlledu eich gwaith a chael eich enw allan i'r byd. Ar ol i chi ddarllen pennod, gallwch ddewis sut yr hoffech i'r plot ddatblygu wrth ychwanegu a datblygu'r stori.

Enghraifft arall tebyg yw Flight Paths - rhyw fath o network novel...triwch newid a dilyn y stori... http://www.flightpaths.net/

Hefyd yr wythnos hon bu'm yn trafod crowdsourcing a sut mae gwneud elw o hyn. Enghraifft da ydi Amazon http://www.amazon.co.uk/gp/seller-account/mm-landing.html/ref=footer_seeall/279-0500159-4156147?ie=UTF8&topic=200313300...
Rydyh chi gyd yn defnyddio Amazon dw i'n siwr, ac efallai eich bod wedi gadael sylw neu arolwg ar lyfr arbennig i chi brynnu.
Safle arall a gafodd ei drafod oedd arolygon (reviews) ar Trip Advisor - http://www.tripadvisor.co.uk/ . Teimlais fod y safle yma yn ddefnyddiol iawn ar gyfer trefnu fy nhrip i Paris yn ddiweddar. Mae'n beth braf gallu darllen am brofiadau da/drwg bobl eraill cyn trefnu trip...gobeithio fydd fy nhrip i Baris yn un llwyddianus :)

Does dim darlith yr wythnos nesaf, ond mi fyddai'n siwr o flogio am syniadau fy mhrosiect terfynol.

Au revoir!

Thursday, 12 November 2009

Darlith 6

Haia!

Wel, dw i ‘di cael wythnos o chwarae a threialu gemau fideo! Braf de!

Yn gyntaf oll hoffwn ddiffinio beth yw gwir ystyr gemau fideo – gelwir yn Interactive Fiction, ble defnyddir ‘text commands’ i reoli cymeriadau. Yn gyffredinol, mae’r term Interactive Fiction yn cyfeirio tuag at ‘text adventure’, sy’n fath o gem anturus, ble mae’r holl rhyngwyneb (interface) yn dext yn unig.
Mae Interactive Fiction yn enwog ers blynyddoedd bellach – death yn boblogaidd yn yr 80’au. Erbyn heddiw mae ystyr y term wedi newid ac mae’n bosib lawrlwytho gemau yn rhad ac am ddim… Cymerwch go ar chwarae un o’r gemau yma am hwyl… http://www.freeonlinegames.name/tags/interactive_fiction/1

Mae ‘Text Adventures’ yn fath o hen emau cyfrifiadurol. Mae’r defnyddiwr / chwaraewr yn defnyddio text fel mewnbwn i reoli’r gem a ceir text yn allbwn hefyd.
Enghraifft o’r gofyniadau (demands) hyn fuasai “get key” neu “go east” ac yn y blaen. Dw i’n siwr fod gennych ryw fath o syniad am beth rwyf yn siarad! Gall gemau fel hyn fod yn rhwystredig iawn o gymharu a gemau graphigol, 3D sydd ar gael heddiw.
Mae 'text game' neu 'text based game' yn fath o gem fideo sy'n defnyddio text yn hytrach na graffeg. Mae gemau fel hyn yn hawdd i'w creu gan nad oes angen llawer o waith prosesu fel gemau graffigol. Dyna oedd yn boblogaidd yn y 70'au/80'au.

Mae nifer o achosion yn codi gyda interactive fiction - e.e open-ended interactivity v's drama. Efallai fod 30 o wahanol ddiweddglo i stori, ond eto, wrth i'r chwaraewr grwydro tu allan i ffiniau'r stori, ni ellir darparu profiad ddramatig. Be dw i'n drio ei ddweud ydi, unwaith mae'r puzzles wedi eu gwneud, mae'r plot yn cael ei ddatgleu...oes pwrpas parhau i chwarae'r gem wedyn?
Wrth gymharu interactive fiction a mathau eraill o ffuglen mae yna debygrwydd. Daw interactive fiction yn wreiddiol o ffuglen draddodiadol fel nofel neu ffilm. Mae yna awdur a chyfarwyddwr i bob stori ac ysgrifennydd mewn gemau. Eu swydd nhw yw creu drama fel bod modd i'r chwaraewr ryngweithio (interact).

Will Crowther oedd y person cyntaf i ysgrifennu ‘Text Adventure Game’ nol yn 1975. Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma… http://www.rickadams.org/adventure/a_history.html
Mae gemau syml fel hyn wedi goroesi ar y we hyd heddiw!

Y cwmni mwyaf i gynhyrchu gemau Interactive Fiction oedd Infocom – http://www.infocom-if.org/downloads/downloads.html Infocom oedd yn gyfrifol am greu cyfres Zork, Trinity a The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy – http://www.heavygames.com/hitchhikersguidetothegalaxy/showgame.asp Dyma’r gem i mi ei chwarae yr wythnos hon. Mae’r gem enwog yma wedi ei selio ar y comic ‘science fiction’. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda stori The Hitchhicker’s Guide to the Galaxy, felly roedd chwarae’r gem braidd yn rhwystredig gan mai bwriad y gem oedd cwblhau’r stori! Dyma amlinelliad sydyn ar sut i chwarae gemau Interactive Fiction… http://www.microheaven.com/IFGuide/step3.html

Os ydych wedi llwyddo i ddarllen fy mlog hyd yn hyn, wel da iawn chi, oherwydd heb lythrennedd a’r gallu i ddarllen ni fuasai’n bosib i chi chwarae’r gem.

Yr hyn sy’n gyfrifol am ddyluniad Interactive Fiction yw system ddylunio, Inform. Mae’r system yma wedi ei selio ar iaith naturiol, hynny yw, - mae ffynhonellau Inform yn darllen yn y Saesneg. Dyna sut mae’r meddalwedd yn deall y gofyniadau (demands). http://inform7.com/

Ewch ati i chwarae’r gemau neu hyd yn oed creu gem eich hun! Mae’n hwyl!

Hwyl am y tro.

Sunday, 1 November 2009

Darlith 5

Pawb yn iawn?

Yr wythnos hon edrychais ar gyfresi o online journals. Un journal i mi edrych ar oedd 'archipelago' - journal yn cynnwys barddoniaeth, storiau ffuglen, lluniau ac ati ydyw...Mae'n gyfle da i waith bobl gael ei gyhoeddi! Yn anffodus nid yw ar gael mewn print bellach. Roedd yn gyfle gwych i hybu ysgrifennu creadigol ac roedd modd gadael sylwadau ar waith eraill. Dilynwch y linc yma i gael gweld copi o '10th anniversary edition' o archipelago. http://www.archipelago.org/contents.htm


Mae'n ddiddorol cael gwybod sut mae pobl yn darllen e.e ydych chi'n dueddol o ddarllen beth sy'n apelio atoch...sganio drwy tudalennau...neu, darllen pob gair?! Mae'n rhaid i mi gyfaddau, dw i ddim yn ffan ar ddarllen e-journals, mae'n haws o lawer gen i ddarllen o lyfr neu bapur newydd. Wedi dweud hynny, mae nifer o fanteision dros darllen ar y we e.e newyddion. Dw i'n ffendio safle we newyddion BBC yn ddefnyddiol iawn bob amser gan fod y newyddion diweddaraf yn cael eu hadnewyddu'n syth! Cawn wybod beth sydd wedi digwydd o fewn mater o funudau! Dw i'n hoffi'r ffaith bod modd lincio'r brif stori gyda digwyddiadau tebyg e.e yn y newyddion heddiw - Spanish beach landslide kills two - Two killed in Tenerife rockslide...mae gan gwahanol safleoedd newyddion wahanol ffyrdd o gyfleu'r stori fel bo modd gweld ochr arall i'r digwyddiad efallai. Mae hyn yn ein galluogi i roi barn ein hunain am y digwyddiad.


Rydych chi gyd yn gyfarwydd gyda safle we newyddion BBC dw i'n siwr...Mae'n hawdd i'w ddefnyddio ond teimlaf mae'n hawdd mynd ar goll hefyd wrth fynd nol a 'mlaen o wahanol storiau. Mae hyperlincio yn ein galluogi ni i neidio o un stori i'r llall fel y gwelwch yma http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/8337129.stm


Fe welwch ar dop a gwaelod tudalen newyddion y BBC bod modd e-bostio'r stori i ffrind neu ei brintio er mwyn darllen fersiwn printiedig. Yn bersonol, mi fuasai'n well gen i wylio BBC News 24 ar y teledu yn hytrach na darllen y newyddion...Beth yw eich barn chi ar hynny?


Wrth glicio ar y linc yma http://news.bbc.co.uk/1/hi/help/6915817.stm ... sylwer fod modd rhannu'r newyddion/stori gyda bobl eraill drwy ddefnyddio sawl botwm 'social bookmarking'.







Drwy dechnoleg fel hyn mae modd annog pawb i ddarllen.

Sylwer hefyd fod rhan fwyaf o newyddion/storiau gan y BBC yn cynnwys fideo/clip audio i gyd-fynd gyda'r digwyddiad. Mae modd gweld rhyw lun o'r digwyddiad gyda phob darn o newyddion ond teimlaf bod mwy o ddyfnder i'r stori drwy wylio'r digwyddiad - Mae'n haws dadansoddi'r stori a dangos dealltwriaeth tuag at y pwnc o dan sylw. Dyma enghraifft i chi - http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8337017.stm

O ran diddordeb hefyd darllenwch y darn yma o newyddion am Stephen Fry a'r digwyddiad ynglyn a'i bostiau Twitter. Dw i'n siwr y buasai'n apelio gan fod hwn yn bwnc perthnasol - http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/8336425.stm

Journal arall i ni edrych arno oedd 'The Washington Post' - Gall bobl adael sylwadau yma ar erthyglau, cawn wybod barn eraill ar wahanol bynciau, pwy sy'n cytuno/anghytuno. Mae'n bosib i'r sylwadau yma gan y cyhoedd newid yr erthygl wreiddiol - gall hyn gael effaith fawr ar y digwyddiad. Dydw i ddim yn un am adael sylwadau...ydych chi? http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1420

Erbyn heddiw y 'gatekeeper' sy'n rheoli beth caiff ei ddweud/dim ei ddweud, rheoli beth sy'n cael ei gyhoeddi. Dim y cyhoeddwr sydd bellach gyda'r hawl i ddweud beth i'w gyhoeddi. Mae 'gatekeeper' yn bwysig iawn ym myd newyddiaduraeth. Y seicolegydd Kurt Lewin oedd y cyntaf i ganfod y theory yma o reoli a ffiltro gwybodaeth - (1947). Mae hyn yn wir am bapur newydd The Guardian - "Gatekeeping occurs at all levels of the media structure - from a reporter deciding which sources are chosen to include in a story to editors deciding which stories are printed, or even covered".

Gobeithio fod y gwybodaeth yma'n ddefnyddiol i chi. Mi fuasai'n ddiddorol clywed eich sylwadau chi ar y pwnc o dan sylw.

Tan yr wythnos nesaf,

Hwyl Fawr!

Sunday, 25 October 2009

Darlith 4

Haia pawb!

Y pwnc o dan sylw yr wythnos hyn ydi - blog. Beth yw blog? Pwy sydd i ddweud os yw’r blogiau dw i’n eu sgwennu yn gywir? Dw i’n tybio fod blog pawb yn wahanol iawn. Gofynwch i’ch hun..beth yw blog? Mae sawl diffiniad! Gall blog fod yn gyfuniad o dext, lluniau/delweddau, data, wedi ei drefnu yn ol trefn amseryddol (chronologically arranged), sydd modd ei weld mewn ‘HTML Browser’. http://www.problogger.net/archives/2005/02/05/what-is-a-blog/ …Mae blogiau yn cynnwys sylwadau ar nifer o wahanol bynciau a gall unrhywun ddweud eu barn wrth ychwanegu ymateb i flog rhywun.

Dywedir rhai mai blog yw eu ‘primary source of news’ – ond rhaid ystyried nad oes gan nifer o flogwyr y profiad newyddiadurol! (No journalistic experience!) Felly, teimlaf nad yw pob blog yn ddibynadwy a ni fyddaf yn debygol o ddefnyddio blog rhywun fel prif ffynhonnell mewn traethawd er enghraifft…Beth yw eich barn chi ar hynny? Dw i ‘di dod ar draws blogiau yn y gorffennol sy’n trafod nonsens llwyr gan ei fod yn amhosib rheoli sylwadau gan eraill – Mae’n dueddol i’r stori / newyddion gwreiddiol gael ei ymestyn i fod yn stori hollol wahanol – wrth ail-adrodd hyn gall y newyddion ddod yn wir!! Mae pobl ar fai yn gwenud hyn yn fy marn i. Credaf ei fod yn anerbynniol i gymryd darn o newyddion a’i wthio i weld pa mor bell y gallai fynd!

Mae bron pawb yn blogio heddiw! Hyd yn oed Barack Obama!! Oes wir, mae gan yntau flog…ok, ddim fo sgwennodd o mae’n siwr ond mae hyn yn profi mai nid ond bobl cyffredin sy’n blogio ond cwmniau a gwleidyddwyr hefyd. Dilynwch y linc yma i weld enghreifftiau - http://1000words.kodak.com/

Mewn darlith e-publishing yr wythnos hon, dysgais beth yw RSS. Cyn y ddarlith doedd gen i ddim syniad beth oedd y llythrennau hyn yn ei olygu! Yn syml, technoleg yw RSS sy’n cael ei ddefnyddio gan filoedd o bobl i gadw trefn ar eu hoff safleoedd gwe. Yn yr hen ddyddiau roedd rhaid ‘bookmarcio’ safleoedd yn eich browser ond erbyn heddiw mae RSS wedi newid popeth! Swnio’n gymhleth? Cliciwch y linc yma i ganfod mwy - http://www.problogger.net/what-is-rss/
Mae RSS yn sefyll am ‘Really Simple Syndication’. Gelwir hefyd yn ‘news feed’ rydych yn tanysgrifio i. Dydw i ddim y person mwyaf technolegol o gwmpas ond dw i hyd yn oed yn gallu defnyddio RSS! Ydych chi wedi gweld yr arwydd yma?





Wrth glicio ar fotwm fel hyn byddwch yn tanysgrifio i dudalen a bydd ‘news feed’ yn ymddangos ar eich ‘tool bar’.
Os hoffech weld mwy o enghreifftiau mae’r safle we yma’n ddefnyddiol iawn am erthyglau mewn trefn amseryddol - http://www.readwriteweb.com/

Mae’n bosib gwenud ychydig o arian wrth greu blog hefyd…Mae hysbysebu yn rhan mawr o hyn….Efallai fod blogio yn rhywbeth i chi ei ystyried?
Dyna ni am yr wythnos yma…Gobeithio fod y blog yma yn ddefnyddiol i chi…

Tan y tro nesaf,

Hwyl fawr!

Sunday, 18 October 2009

Darlith 3

Waw! Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyffrous iawn! Dw i wedi cyhoeddi fy llyfr cyntaf! Gyda help Catrin, aethom ati i gyhoeddi llyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens. Doedd gen i ddim syniad pa mor hawdd oedd y broses o gyhoeddi llyfr. Drwy ‘self-publishing’ mae modd torri nol ar nifer o gostau gan mai fy lle i oedd pendefynu ar y stori, dyluniad, clawr, ffont ac yn y blaen.
Ydych chi’n gyfarwydd efo lulu.com? Na? Doeddwn i ‘rioed ‘di clywed amdano cyn yr wythnos yma chwaith. Mae lulu.com yn eich galluogi i “publish and sell print-on-demand books and e-books, online music and images, custom calendars and books. Free self-publishing – create and print your own book”. Dw i’n meddwl fod hyn yn anhygoel o ddarganfyddiad! Gall cyhoeddi llyfr eich hun fod yn anrheg perffaith i aelodau’r teulu – Mae’n arbennig ac yn bersonol iawn.

Yn gyntaf, roedd rhaid agor cyfrif gyda lulu.com. Yma roedd angen cynnwys gwybodaeth fel enwau, cyfeiriad e-bost, cyfrinair ac enw ar gyfer eich cwmni. Ar ol gwenud hynny, defnyddiais “Project Gutenberg” sef “online book catalogue” i ddod o hyd i lyfr. Project Gutenberg oedd y cynhyrchydd cyntaf erioed i greu llyfrau electronig am ddim. Roedd modd chwilio am lyfr neu awdur a chopi a pastio’r text i raglen fel Microsoft Word. Roeddwn wedyn yn gallu copi a pastio’r text i safle lulu.com. Defnyddiais lyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens…Mae’n siwr eich bod n gyfarwydd a gwaith yr awdur enwog yma! Ychwanegais lun nadoligaidd i gyd-fynd a’r stori..cefais lun oddi ar Flicker… http://www.flickr.com/ - Yn amlwg mae’n rhaid cael caniatad y ffotograffydd/ perchenog y llun cyn ei ddefnyddio. Cymerwch go arni! Defnyddiwch lulu.com a triwch gyhoeddi eich llyfr eich hun. Cefais ddewis y ‘layout’, ffont, math o lyfr e.e clawr caled, clawr papur, lliw, maint ac ati. Roedd yn edrych mor broffesiynol! – dilynwch y linc yma i gael fwy o syniad am beth rwyf yn son… http://www.lulu.com/ . Roedd yn sialens newydd a nes i fwynhau’n arw.

Buaswn yn ystyried creu a chyhoeddi e-lyfr fel un e-publishing artefact ar gyfer fy mhrosiect terfynnol. Gall y prosiect gynnwys e-book, e-journal, e-visual novel ac ati…ond efallai mai e-book na’i benderfynu ei wneud. Yn amlwg cyn meddwl am lyfr i’w gyhoeddi mae’n rhaid ystyried hawlfraint y llyfr..am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma… http://www.copyrightservice.co.uk/copyright/p01_uk_copyright_law

Mae’n ofynnol i unrywun sy’n cyhoeddi llyfr i wneud lot fawr o ymchwil yn gyntaf, er enghraifft, ymchwilio’r farchnad – edrych sut fath o lyfrau sy’n gwerthu orau er mwyn llwyddo. Y cam nesaf fuasai dod o hyd i ‘editor’ i wiro’r sillafu ac ati. Gall hyn fod n gostus iawn.
Mae nifer yn dewis yr opsiwn ‘self-publishing’ yn ddiweddar wrth i’r dechnoleg ddatblygu. Er mwyn i’r llyfr lwyddo, mae’n syniad cael hawlfraint yn erbyn y llyfr cyn ei ddosbarthu - buasai hyn yn amddiffyn eich hawliau chi fel cyhoeddwr y llyfr.

Yn fy mlog diwethaf roeddwn yn trafod y 3 pennod cyntaf o lyfr Thompson…ydych chi’n cofio? Wel dros yr wythnos hon, darllenais bennod 15 o’r llyfr – The hidden revolution: reinventing the life cycle of the book. Ceir gwybodaeth yma am hanes bywyd y llyfr a’r newidiadau digidol ers yr 80’au. Canolbwyntir yn bennaf ar ddyfodiad yr e-lyfr a’r ‘digital workflow’.
Sonir yn y bennod am ffeiliau PDF a pha mor hyblyg a haws ydi eu defnyddio heddiw. Yn y dosbarth bu’m yn trafod ‘tags’, er enghraifft - Mae’r fformat yma’n cael ei ddefnydddio er mwyn gallu darllen ar unrhyw declyn fel y we, cyfrifiadur neu i-phone a.y.y.b. Mae’n siwr fod hyn i gyd n dal i swnio’n newydd i chi gyd ond coeliwch fi, unwaith y byddwch yn gyfarwydd efo meddalwedd fel lulu, bydd hyn i gyd yn gwneud synnwyr!

Gobeithio y cewch chi hwyl ar gyhoeddi eich llyfr cyntaf!
Pob hwyl.

Sunday, 11 October 2009

Darlith 2

Helo bawb!

Dros yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi bod n darllen pennodau o lyfrau yn ymwneud รข e-publishing. Darllennais bennod cyntaf “The Rattle of Pebbles” gan yr awdur Jason Epstein. Roedd y llyfr yma ar ffurf e-book a cefais anhawster i’w ddarllen…Roedd rhaid sgrolio i fyny ac i lawr a swmio mewn ac allan er mwyn gwneud y ffont yn ddarllenadwy! Teimlais fod hyn yn drafferthus braidd o gymharu a darllen llyfr printiedig. Prif thema’r bennod oedd sut mae cwmni cyhoeddi bach syml yn datblygu o fod yn “cottage industry” i fod yn gwmni mawr masnachol rhyngwladol.
Mae’n amlwg o’r llyfrau a ddarllenais fod datblygiadau technoleg wedi newid a chreu argraff fawr ar y ffyrdd o gyhoeddi. Erbyn heddiw mae peiriannau ar gael i sganio a storio unrhyw dext sy’n cael ei greu, fel bod y nifer o gopiau printiedig – “on demand” yn gostwng er mwyn hybu darllen ar ffurf electroneg.
Bu’m hefyd yn trafod y ffyrdd o hysbysebu llyfr. Yn ol Jason Epstein “The best advertising for any book is word of mouth…But the Web will be more than a platform from which books are promoted and sold”. – Cawsom drafodaeth am hyn wrth i aelod o’r dosbarth adrodd hanes llyfr Robin Slone a’i lwyddiant o drwy werthu dros Amazon. Mae nifer ohonom yn defnyddio Amazon dwi’n siwr…Mae’n dechnoleg gymharol newydd sydd wedi newid y “publishing value chain” http://www.amazon.co.uk/

Yr wythnos hon edrychais yn fwy manwl ar y diwydiant cyhoeddi a sut mae mynd ati i gyhoeddi llyfr. Mae sawl cam yn perthyn i’r broses gyhoeddi – Dyma enghraifft i chi gael gweld… http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1392
Llyfr defnyddiol iawn i’w ddarllen ydi “Books in the Digital Age” gan Thompson. Darllenais y dair bennod cyntaf, a dysgais lot fawr am y busnes cyhoeddi. Nid ydyw mor syml ag yr oeddwn wedi ei feddwl! Mae nifer o waith a phobl yn perthyn i’r diwydiant a’r broses cyhoeddi.
Yn ol Thompson, mae yna 3 pwynt pwysig i’w cofio wrth fynd ati i gyhoeddi llyfr – “The publishing cycle”, “The publishing chain” a’r “publishing field”. Y publishing cycle yw cylch bywyd y llyfr o’r dechrau hyd at y diwedd. Mae’r publishing chain yn cyfeirio mwy at y drefn a’r rhyngberthynas rhwng y cyhoeddi, y gwerthu a’r dosbarthu. Mae’r publishing field yn delio fwy gyda’r ochr ariannol o gyhoeddi, er enghraifft - economic capital, human capital, intellectual capital a symbolic capital. I ddarganfod mwy am y broses, darllenwch “Books in the digital age” gan Thompson.
Mae darllen y llyfr yma wedi galluogi i mi ddangos fwy o ddealltwriaeth tuag at y pwnc dan sylw. Prynnwch gopi heddiw os oes gennych ddiddordeb yn y maes e-publishing!
Edrychaf ‘mlaen i gael dysgu ymhellach am y broses cyhoeddi a sut mae wedi datblygu hyd at heddiw. Mae’n amlwg i mi mai ond y dechrau yw hyn ar gyfer e-publishing – pwy a wyr beth fydd datblygiadau’r dyfodol?!

Hwyl am y tro!

Monday, 5 October 2009

Darlith 1

Croeso i fy mlog!

Cefais ddarlith sy'n hollol newydd i mi yr wythnos hon, sef e-publishing. Cyn y ddarlith doedd gen i ddim syniad beth yn union yw e-publishing. Mae'n amlwg o'r teitl mai rhywbeth sy'n cael ei gyhoeddi ar ffurf electroneg ydyw...ond, mae mwy iddo na hynny.
Bu'm yn edrych ar nofel Ulysses gan James Joyce. Llyfr a gafodd ei gyhoeddi ym Mharis yn 1922. Yn amlwg mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi ers degawdau. Rwyf wedi dod i'r canlyniad fod darllen rhywbeth ffisegol, personol fel llyfr yn apelio fwy ata i yn hytrach na darllen ar ffurf electroneg..efallai eich bod yn cytuno? Fy niffiniad o lyfr ydi rhywbeth gweladwy, ffisegol, sydd modd ei gyffwrdd - Mae e-publishing ar y llaw arall yn cyfeirio at ffurf o gyhoeddi sydd ddim yn cynnwys llyfr printiedig. Cyfrwng eithaf diweddar ydi hyn. Credaf bod manteision ac anfanteision yn gysylltiedig gyda e-publishing. Yn amlwg mae amseroedd cyhoeddi manuscripts yn broses cyflym iawn o gymharu a'r blynyddoedd o aros am lyfr printiedig. Mantais arall yw mwy o hyblygrwydd yn y berthynas rhwng yr awdur a'r cyhoeddwr. Peth da arall a ddysgais am e-publishing yw fod modd ychwanegu sain a graffeg yn electroneg - anodd iawn a chostus fyddai ychwanegu at lyfr printiedig. Daethom i'r canlyniadau hyn am ddiffiniad o e-publishing wrth drafod mewn grwpiau...roedd hyn yn ymarfer da i ddod i nabod aelodau'r cwrs. Mae'n ddiddorol gwybod beth yw barn bobl eraill ar y pwnc e-publishing...

Yn ystod y ddarlith cyntaf cawsom gyflwyniad i safle we 'Moodle' - dyma fyddwn yn ei ddefnyddio yn hytrach na Blackboard...http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/course/view.php?id=41. Yma mae manylion y cwrs a'r aseiniadau. Ar hyn o bryd nid ydwyf yn hollol sicr beth sy'n ofynnol i mi ei wneud...Gofynnir i mi ddatblygu prosiect electroneg penodol. Rwy'n siwr wrth ddysgu mwy am y modiwl daw'r gofynion yn gliriach.

Pob wythnos byddaf yn ysgrifennu blog am beth rwyf wedi ei wneud a'i ddysgu o'r ddarlith. Dyma'r blog cyntaf i mi ei ysgrifennu erioed. Mae'n hawdd creu blog am unryw bwnc wrth gofrestru gyda blogger.com...fel wnes i.

Fy ngwaith cartref am yr wythnos ydi darllen The Rattle of Pebbles gan J.Epstein, The Gutenberg Elegies: The Fate of Reading in an Electronic Age a llyfr Thompson: pennod 1-3.
Edrychaf 'mlaen i gael cychwyn ar waith gan fod e-publishing yn bwnc hollol newydd i mi.

Tan y tro nesaf,
Hwyl fawr.