Helo bawb!
Dros yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi bod n darllen pennodau o lyfrau yn ymwneud â e-publishing. Darllennais bennod cyntaf “The Rattle of Pebbles” gan yr awdur Jason Epstein. Roedd y llyfr yma ar ffurf e-book a cefais anhawster i’w ddarllen…Roedd rhaid sgrolio i fyny ac i lawr a swmio mewn ac allan er mwyn gwneud y ffont yn ddarllenadwy! Teimlais fod hyn yn drafferthus braidd o gymharu a darllen llyfr printiedig. Prif thema’r bennod oedd sut mae cwmni cyhoeddi bach syml yn datblygu o fod yn “cottage industry” i fod yn gwmni mawr masnachol rhyngwladol.
Mae’n amlwg o’r llyfrau a ddarllenais fod datblygiadau technoleg wedi newid a chreu argraff fawr ar y ffyrdd o gyhoeddi. Erbyn heddiw mae peiriannau ar gael i sganio a storio unrhyw dext sy’n cael ei greu, fel bod y nifer o gopiau printiedig – “on demand” yn gostwng er mwyn hybu darllen ar ffurf electroneg.
Bu’m hefyd yn trafod y ffyrdd o hysbysebu llyfr. Yn ol Jason Epstein “The best advertising for any book is word of mouth…But the Web will be more than a platform from which books are promoted and sold”. – Cawsom drafodaeth am hyn wrth i aelod o’r dosbarth adrodd hanes llyfr Robin Slone a’i lwyddiant o drwy werthu dros Amazon. Mae nifer ohonom yn defnyddio Amazon dwi’n siwr…Mae’n dechnoleg gymharol newydd sydd wedi newid y “publishing value chain” http://www.amazon.co.uk/
Yr wythnos hon edrychais yn fwy manwl ar y diwydiant cyhoeddi a sut mae mynd ati i gyhoeddi llyfr. Mae sawl cam yn perthyn i’r broses gyhoeddi – Dyma enghraifft i chi gael gweld… http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1392
Llyfr defnyddiol iawn i’w ddarllen ydi “Books in the Digital Age” gan Thompson. Darllenais y dair bennod cyntaf, a dysgais lot fawr am y busnes cyhoeddi. Nid ydyw mor syml ag yr oeddwn wedi ei feddwl! Mae nifer o waith a phobl yn perthyn i’r diwydiant a’r broses cyhoeddi.
Yn ol Thompson, mae yna 3 pwynt pwysig i’w cofio wrth fynd ati i gyhoeddi llyfr – “The publishing cycle”, “The publishing chain” a’r “publishing field”. Y publishing cycle yw cylch bywyd y llyfr o’r dechrau hyd at y diwedd. Mae’r publishing chain yn cyfeirio mwy at y drefn a’r rhyngberthynas rhwng y cyhoeddi, y gwerthu a’r dosbarthu. Mae’r publishing field yn delio fwy gyda’r ochr ariannol o gyhoeddi, er enghraifft - economic capital, human capital, intellectual capital a symbolic capital. I ddarganfod mwy am y broses, darllenwch “Books in the digital age” gan Thompson.
Mae darllen y llyfr yma wedi galluogi i mi ddangos fwy o ddealltwriaeth tuag at y pwnc dan sylw. Prynnwch gopi heddiw os oes gennych ddiddordeb yn y maes e-publishing!
Edrychaf ‘mlaen i gael dysgu ymhellach am y broses cyhoeddi a sut mae wedi datblygu hyd at heddiw. Mae’n amlwg i mi mai ond y dechrau yw hyn ar gyfer e-publishing – pwy a wyr beth fydd datblygiadau’r dyfodol?!
Hwyl am y tro!
Sunday, 11 October 2009
Darlith 2
Subscribe to:
Post Comments (Atom)

No comments:
Post a Comment