Sunday, 25 October 2009

Darlith 4

Haia pawb!

Y pwnc o dan sylw yr wythnos hyn ydi - blog. Beth yw blog? Pwy sydd i ddweud os yw’r blogiau dw i’n eu sgwennu yn gywir? Dw i’n tybio fod blog pawb yn wahanol iawn. Gofynwch i’ch hun..beth yw blog? Mae sawl diffiniad! Gall blog fod yn gyfuniad o dext, lluniau/delweddau, data, wedi ei drefnu yn ol trefn amseryddol (chronologically arranged), sydd modd ei weld mewn ‘HTML Browser’. http://www.problogger.net/archives/2005/02/05/what-is-a-blog/ …Mae blogiau yn cynnwys sylwadau ar nifer o wahanol bynciau a gall unrhywun ddweud eu barn wrth ychwanegu ymateb i flog rhywun.

Dywedir rhai mai blog yw eu ‘primary source of news’ – ond rhaid ystyried nad oes gan nifer o flogwyr y profiad newyddiadurol! (No journalistic experience!) Felly, teimlaf nad yw pob blog yn ddibynadwy a ni fyddaf yn debygol o ddefnyddio blog rhywun fel prif ffynhonnell mewn traethawd er enghraifft…Beth yw eich barn chi ar hynny? Dw i ‘di dod ar draws blogiau yn y gorffennol sy’n trafod nonsens llwyr gan ei fod yn amhosib rheoli sylwadau gan eraill – Mae’n dueddol i’r stori / newyddion gwreiddiol gael ei ymestyn i fod yn stori hollol wahanol – wrth ail-adrodd hyn gall y newyddion ddod yn wir!! Mae pobl ar fai yn gwenud hyn yn fy marn i. Credaf ei fod yn anerbynniol i gymryd darn o newyddion a’i wthio i weld pa mor bell y gallai fynd!

Mae bron pawb yn blogio heddiw! Hyd yn oed Barack Obama!! Oes wir, mae gan yntau flog…ok, ddim fo sgwennodd o mae’n siwr ond mae hyn yn profi mai nid ond bobl cyffredin sy’n blogio ond cwmniau a gwleidyddwyr hefyd. Dilynwch y linc yma i weld enghreifftiau - http://1000words.kodak.com/

Mewn darlith e-publishing yr wythnos hon, dysgais beth yw RSS. Cyn y ddarlith doedd gen i ddim syniad beth oedd y llythrennau hyn yn ei olygu! Yn syml, technoleg yw RSS sy’n cael ei ddefnyddio gan filoedd o bobl i gadw trefn ar eu hoff safleoedd gwe. Yn yr hen ddyddiau roedd rhaid ‘bookmarcio’ safleoedd yn eich browser ond erbyn heddiw mae RSS wedi newid popeth! Swnio’n gymhleth? Cliciwch y linc yma i ganfod mwy - http://www.problogger.net/what-is-rss/
Mae RSS yn sefyll am ‘Really Simple Syndication’. Gelwir hefyd yn ‘news feed’ rydych yn tanysgrifio i. Dydw i ddim y person mwyaf technolegol o gwmpas ond dw i hyd yn oed yn gallu defnyddio RSS! Ydych chi wedi gweld yr arwydd yma?





Wrth glicio ar fotwm fel hyn byddwch yn tanysgrifio i dudalen a bydd ‘news feed’ yn ymddangos ar eich ‘tool bar’.
Os hoffech weld mwy o enghreifftiau mae’r safle we yma’n ddefnyddiol iawn am erthyglau mewn trefn amseryddol - http://www.readwriteweb.com/

Mae’n bosib gwenud ychydig o arian wrth greu blog hefyd…Mae hysbysebu yn rhan mawr o hyn….Efallai fod blogio yn rhywbeth i chi ei ystyried?
Dyna ni am yr wythnos yma…Gobeithio fod y blog yma yn ddefnyddiol i chi…

Tan y tro nesaf,

Hwyl fawr!

Sunday, 18 October 2009

Darlith 3

Waw! Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyffrous iawn! Dw i wedi cyhoeddi fy llyfr cyntaf! Gyda help Catrin, aethom ati i gyhoeddi llyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens. Doedd gen i ddim syniad pa mor hawdd oedd y broses o gyhoeddi llyfr. Drwy ‘self-publishing’ mae modd torri nol ar nifer o gostau gan mai fy lle i oedd pendefynu ar y stori, dyluniad, clawr, ffont ac yn y blaen.
Ydych chi’n gyfarwydd efo lulu.com? Na? Doeddwn i ‘rioed ‘di clywed amdano cyn yr wythnos yma chwaith. Mae lulu.com yn eich galluogi i “publish and sell print-on-demand books and e-books, online music and images, custom calendars and books. Free self-publishing – create and print your own book”. Dw i’n meddwl fod hyn yn anhygoel o ddarganfyddiad! Gall cyhoeddi llyfr eich hun fod yn anrheg perffaith i aelodau’r teulu – Mae’n arbennig ac yn bersonol iawn.

Yn gyntaf, roedd rhaid agor cyfrif gyda lulu.com. Yma roedd angen cynnwys gwybodaeth fel enwau, cyfeiriad e-bost, cyfrinair ac enw ar gyfer eich cwmni. Ar ol gwenud hynny, defnyddiais “Project Gutenberg” sef “online book catalogue” i ddod o hyd i lyfr. Project Gutenberg oedd y cynhyrchydd cyntaf erioed i greu llyfrau electronig am ddim. Roedd modd chwilio am lyfr neu awdur a chopi a pastio’r text i raglen fel Microsoft Word. Roeddwn wedyn yn gallu copi a pastio’r text i safle lulu.com. Defnyddiais lyfr “A Christmas Carol” gan Charles Dickens…Mae’n siwr eich bod n gyfarwydd a gwaith yr awdur enwog yma! Ychwanegais lun nadoligaidd i gyd-fynd a’r stori..cefais lun oddi ar Flicker… http://www.flickr.com/ - Yn amlwg mae’n rhaid cael caniatad y ffotograffydd/ perchenog y llun cyn ei ddefnyddio. Cymerwch go arni! Defnyddiwch lulu.com a triwch gyhoeddi eich llyfr eich hun. Cefais ddewis y ‘layout’, ffont, math o lyfr e.e clawr caled, clawr papur, lliw, maint ac ati. Roedd yn edrych mor broffesiynol! – dilynwch y linc yma i gael fwy o syniad am beth rwyf yn son… http://www.lulu.com/ . Roedd yn sialens newydd a nes i fwynhau’n arw.

Buaswn yn ystyried creu a chyhoeddi e-lyfr fel un e-publishing artefact ar gyfer fy mhrosiect terfynnol. Gall y prosiect gynnwys e-book, e-journal, e-visual novel ac ati…ond efallai mai e-book na’i benderfynu ei wneud. Yn amlwg cyn meddwl am lyfr i’w gyhoeddi mae’n rhaid ystyried hawlfraint y llyfr..am fwy o wybodaeth dilynwch y linc yma… http://www.copyrightservice.co.uk/copyright/p01_uk_copyright_law

Mae’n ofynnol i unrywun sy’n cyhoeddi llyfr i wneud lot fawr o ymchwil yn gyntaf, er enghraifft, ymchwilio’r farchnad – edrych sut fath o lyfrau sy’n gwerthu orau er mwyn llwyddo. Y cam nesaf fuasai dod o hyd i ‘editor’ i wiro’r sillafu ac ati. Gall hyn fod n gostus iawn.
Mae nifer yn dewis yr opsiwn ‘self-publishing’ yn ddiweddar wrth i’r dechnoleg ddatblygu. Er mwyn i’r llyfr lwyddo, mae’n syniad cael hawlfraint yn erbyn y llyfr cyn ei ddosbarthu - buasai hyn yn amddiffyn eich hawliau chi fel cyhoeddwr y llyfr.

Yn fy mlog diwethaf roeddwn yn trafod y 3 pennod cyntaf o lyfr Thompson…ydych chi’n cofio? Wel dros yr wythnos hon, darllenais bennod 15 o’r llyfr – The hidden revolution: reinventing the life cycle of the book. Ceir gwybodaeth yma am hanes bywyd y llyfr a’r newidiadau digidol ers yr 80’au. Canolbwyntir yn bennaf ar ddyfodiad yr e-lyfr a’r ‘digital workflow’.
Sonir yn y bennod am ffeiliau PDF a pha mor hyblyg a haws ydi eu defnyddio heddiw. Yn y dosbarth bu’m yn trafod ‘tags’, er enghraifft - Mae’r fformat yma’n cael ei ddefnydddio er mwyn gallu darllen ar unrhyw declyn fel y we, cyfrifiadur neu i-phone a.y.y.b. Mae’n siwr fod hyn i gyd n dal i swnio’n newydd i chi gyd ond coeliwch fi, unwaith y byddwch yn gyfarwydd efo meddalwedd fel lulu, bydd hyn i gyd yn gwneud synnwyr!

Gobeithio y cewch chi hwyl ar gyhoeddi eich llyfr cyntaf!
Pob hwyl.

Sunday, 11 October 2009

Darlith 2

Helo bawb!

Dros yr wythnos ddiwethaf rwyf wedi bod n darllen pennodau o lyfrau yn ymwneud รข e-publishing. Darllennais bennod cyntaf “The Rattle of Pebbles” gan yr awdur Jason Epstein. Roedd y llyfr yma ar ffurf e-book a cefais anhawster i’w ddarllen…Roedd rhaid sgrolio i fyny ac i lawr a swmio mewn ac allan er mwyn gwneud y ffont yn ddarllenadwy! Teimlais fod hyn yn drafferthus braidd o gymharu a darllen llyfr printiedig. Prif thema’r bennod oedd sut mae cwmni cyhoeddi bach syml yn datblygu o fod yn “cottage industry” i fod yn gwmni mawr masnachol rhyngwladol.
Mae’n amlwg o’r llyfrau a ddarllenais fod datblygiadau technoleg wedi newid a chreu argraff fawr ar y ffyrdd o gyhoeddi. Erbyn heddiw mae peiriannau ar gael i sganio a storio unrhyw dext sy’n cael ei greu, fel bod y nifer o gopiau printiedig – “on demand” yn gostwng er mwyn hybu darllen ar ffurf electroneg.
Bu’m hefyd yn trafod y ffyrdd o hysbysebu llyfr. Yn ol Jason Epstein “The best advertising for any book is word of mouth…But the Web will be more than a platform from which books are promoted and sold”. – Cawsom drafodaeth am hyn wrth i aelod o’r dosbarth adrodd hanes llyfr Robin Slone a’i lwyddiant o drwy werthu dros Amazon. Mae nifer ohonom yn defnyddio Amazon dwi’n siwr…Mae’n dechnoleg gymharol newydd sydd wedi newid y “publishing value chain” http://www.amazon.co.uk/

Yr wythnos hon edrychais yn fwy manwl ar y diwydiant cyhoeddi a sut mae mynd ati i gyhoeddi llyfr. Mae sawl cam yn perthyn i’r broses gyhoeddi – Dyma enghraifft i chi gael gweld… http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1392
Llyfr defnyddiol iawn i’w ddarllen ydi “Books in the Digital Age” gan Thompson. Darllenais y dair bennod cyntaf, a dysgais lot fawr am y busnes cyhoeddi. Nid ydyw mor syml ag yr oeddwn wedi ei feddwl! Mae nifer o waith a phobl yn perthyn i’r diwydiant a’r broses cyhoeddi.
Yn ol Thompson, mae yna 3 pwynt pwysig i’w cofio wrth fynd ati i gyhoeddi llyfr – “The publishing cycle”, “The publishing chain” a’r “publishing field”. Y publishing cycle yw cylch bywyd y llyfr o’r dechrau hyd at y diwedd. Mae’r publishing chain yn cyfeirio mwy at y drefn a’r rhyngberthynas rhwng y cyhoeddi, y gwerthu a’r dosbarthu. Mae’r publishing field yn delio fwy gyda’r ochr ariannol o gyhoeddi, er enghraifft - economic capital, human capital, intellectual capital a symbolic capital. I ddarganfod mwy am y broses, darllenwch “Books in the digital age” gan Thompson.
Mae darllen y llyfr yma wedi galluogi i mi ddangos fwy o ddealltwriaeth tuag at y pwnc dan sylw. Prynnwch gopi heddiw os oes gennych ddiddordeb yn y maes e-publishing!
Edrychaf ‘mlaen i gael dysgu ymhellach am y broses cyhoeddi a sut mae wedi datblygu hyd at heddiw. Mae’n amlwg i mi mai ond y dechrau yw hyn ar gyfer e-publishing – pwy a wyr beth fydd datblygiadau’r dyfodol?!

Hwyl am y tro!

Monday, 5 October 2009

Darlith 1

Croeso i fy mlog!

Cefais ddarlith sy'n hollol newydd i mi yr wythnos hon, sef e-publishing. Cyn y ddarlith doedd gen i ddim syniad beth yn union yw e-publishing. Mae'n amlwg o'r teitl mai rhywbeth sy'n cael ei gyhoeddi ar ffurf electroneg ydyw...ond, mae mwy iddo na hynny.
Bu'm yn edrych ar nofel Ulysses gan James Joyce. Llyfr a gafodd ei gyhoeddi ym Mharis yn 1922. Yn amlwg mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi ers degawdau. Rwyf wedi dod i'r canlyniad fod darllen rhywbeth ffisegol, personol fel llyfr yn apelio fwy ata i yn hytrach na darllen ar ffurf electroneg..efallai eich bod yn cytuno? Fy niffiniad o lyfr ydi rhywbeth gweladwy, ffisegol, sydd modd ei gyffwrdd - Mae e-publishing ar y llaw arall yn cyfeirio at ffurf o gyhoeddi sydd ddim yn cynnwys llyfr printiedig. Cyfrwng eithaf diweddar ydi hyn. Credaf bod manteision ac anfanteision yn gysylltiedig gyda e-publishing. Yn amlwg mae amseroedd cyhoeddi manuscripts yn broses cyflym iawn o gymharu a'r blynyddoedd o aros am lyfr printiedig. Mantais arall yw mwy o hyblygrwydd yn y berthynas rhwng yr awdur a'r cyhoeddwr. Peth da arall a ddysgais am e-publishing yw fod modd ychwanegu sain a graffeg yn electroneg - anodd iawn a chostus fyddai ychwanegu at lyfr printiedig. Daethom i'r canlyniadau hyn am ddiffiniad o e-publishing wrth drafod mewn grwpiau...roedd hyn yn ymarfer da i ddod i nabod aelodau'r cwrs. Mae'n ddiddorol gwybod beth yw barn bobl eraill ar y pwnc e-publishing...

Yn ystod y ddarlith cyntaf cawsom gyflwyniad i safle we 'Moodle' - dyma fyddwn yn ei ddefnyddio yn hytrach na Blackboard...http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/course/view.php?id=41. Yma mae manylion y cwrs a'r aseiniadau. Ar hyn o bryd nid ydwyf yn hollol sicr beth sy'n ofynnol i mi ei wneud...Gofynnir i mi ddatblygu prosiect electroneg penodol. Rwy'n siwr wrth ddysgu mwy am y modiwl daw'r gofynion yn gliriach.

Pob wythnos byddaf yn ysgrifennu blog am beth rwyf wedi ei wneud a'i ddysgu o'r ddarlith. Dyma'r blog cyntaf i mi ei ysgrifennu erioed. Mae'n hawdd creu blog am unryw bwnc wrth gofrestru gyda blogger.com...fel wnes i.

Fy ngwaith cartref am yr wythnos ydi darllen The Rattle of Pebbles gan J.Epstein, The Gutenberg Elegies: The Fate of Reading in an Electronic Age a llyfr Thompson: pennod 1-3.
Edrychaf 'mlaen i gael cychwyn ar waith gan fod e-publishing yn bwnc hollol newydd i mi.

Tan y tro nesaf,
Hwyl fawr.